Arweinwyr Digidol/ Digital Leaders
Gweledigaeth yr Arweinwyr Digidol
Yn Ysgol Bro Eirwg hoffwn ni;
- Sicrhau bod pob plentyn yn gwybod sut i gadw'n ddiogel ar y we.
- Helpu plant yr ysgol i wella eu sgiliau technoleg.
- Rhoi'r cyfle i bob plentyn i ddefnyddio technoleg i gyfathrebu a chydweithio.
- Dysgu yn annibynnol, trwy ymchwilio a chasglu gwybodaeth a ffeithiau am ein dysgu.
- Defnyddio technoleg i fod yn chwilfrydig ac yn hyderus wrth gyflwyno.
- Datblygu arbenigwyr yn yr ysgol i helpu gyda thechnoleg ym mhob ffordd.