Amser cinio / Lunch time
Bwydlen Gwanwyn / Haf 24 - Spring / Summer lunch menu
Cinio Ysgol
- Mae’r plant yn gallu dewis cinio ysgol neu frechdanau ar gyfer eu cinioPris cinio ysgol yw £2.75 y dydd i blant o flwyddyn 6 a dylid talu ar wefan Parentpay – www.parentpay.co
- Mae plant y dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1, 2 3, 4 a 5 yn derbyn cinio am ddim.
- Cewch ddewis cinio ysgol eich plentyn arlein. Mae’r fwydlen wythnosol ar Parentpay
- Bydd yr ysgol yn dosbarthu manylion mewngofnodi Parentpay i bob plentyn pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol
- Rhaid dewis y cinio o flaen llaw, fan hwyraf y noson cynt. Gellir archebu sawl wythnos ar y tro
- Os yw eich plentyn yn absennol, ni fydd yr arian yn cael ei dynnu o’ch cyfrif Parentpay.
School Lunches
The children can choose school meals or bring sandwiches from home for their lunches
- The price of school meals for pupils in year 6 is £2.75 per day and should be paid on the Parentpay website – www.parentpay.com. Children in the Reception classes, years 1, 2 3, 4 and 5 receive free lunches.
- You can select the school meals online – the weekly menu is on Parentpay
- The school will provide the Parentpay log in details when a child starts in school
- School meals must be selected beforehand, at least a day in advance. You may order meals for several weeks in advance
- If your child is absent, no money will be debited from your Parentpay account
Cinio am Ddim
Ceisiadau am Brydau Ysgol am Ddim yn mynd ar-lein
Gellir gwneud ceisiadau newydd am Brydau Ysgol am Ddim ar-lein erbyn hyn, drwy wefan y Cyngor.
Mae ein Tîm Cymorth Budd-daliadau wedi gweithio gyda Thîm y We i ddatblygu’r system gwneud cais ar-lein, gan ei gwneud yn gyflymach ac yn haws i deuluoedd cymwys yn y ddinas wneud cais. Ni fydd angen i ymgeiswyr gyflwyno cais papur mwyach gan y gellir llenwi’r ffurflen fer ar-lein o ddyfeisiau personol gartref.
Dylai ymgeiswyr sydd ag ymholiadau neu sydd angen cymorth gysylltu â’r llinell Prydau Ysgol am Ddim ar 029 2053 7250 lle bydd aelodau’r tîm yn gallu datrys y rhan fwyaf o ymholiadau heb fod angen apwyntiad. Mae mynediad at gyfrifiaduron personol ar sail apwyntiad yn unig ar gael mewn hybiau ledled y ddinas i unrhyw un sydd heb fodd o ddefnyddio dyfais na’r rhyngrwyd.
Mae manylion cymhwysedd y cynllun a’r ffurflen gais ar-lein newydd ar gael yma –https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Cymorth-Ariannol/Prydau-ysgol-am-ddim/Pages/default.aspx
Free School Meals
Free school meal applications go online
New applications for Free School Meals can now be made online, via the Council’s website.
Our Benefit Support Team has worked with the Web Team to develop the online application system, making it quicker and easier for qualifying families in the city to apply. Applicants will no longer need to submit a paper application as the short online form can be completed from personal devices at home.
Applicants with queries or who need support should contact the Free School Meals line on 029 2053 7250 where members of the team will be able to resolve most queries without the need for an appointment. Access to PCs on an appointment-only basis is available in hubs across the city for anyone without access to a device or the internet.
Details of eligibility for the scheme and the new online application form are available here – https://www.cardiff.gov.uk/ENG/resident/Schools-and-learning/Financial-support/Free-School-meals/Pages/default.aspx