Google Services

Google Translate

Google Search

Croeso i /Welcome to

Ysgol Bro Eirwg

Creu dyfodol disglair

Croeso / Welcome

Croeso i Ysgol Gymraeg Bro Eirwg!

Bydd y wefan yma yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr i chi am yr ysgol, ein amcanion a’r holl weithgareddau amrywiol sy’n digwydd yma.

Ysgol benodedig Gymraeg yw Bro Eirwg a sefydlwyd yn 1981. Mae’r ysgol yn darparu addysg i blant dwyrain y ddinas, yn benodol felly plant ardal Llanrhymni a Tredelerch. Mae’r ysgol yn gymuned hapus a phrysur ac rydym yn gweithio’n galed i roi cyfle i bob plentyn dyfu’n unigolion cyfrifol o gymdeithas. Mae’r tîm yn un cryf ac mae pawb yn cydweithio’n hapus er lles y plant. Mae’r plant yn frwdfrydig a’r rhieni a'r llywodraethwyr yn gefnogol iawn. Mae addysg yn bartneriaeth rhwng yr ysgol a’r cartref ac rydym yn falch iawn o’r berthynas ardderchog sydd gan yr ysgol gyda’r holl rieni.

Ers mis Medi 2019 mae Ysgol Bro Eirwg wedi bod mewn ffederasiwn gyda Ysgol Pen y Pîl, Ffederasiwn y Ddraig. Mae'r ddwy ysgol yn gweithio'n agos gyda'i gilydd er lles yr holl blant a chymunedau'r ysgol.

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r wefan ac y cewch flas ar fwrlwm a phrysurdeb yr ysgol hapus hon.

Sarah Jones

Pennaeth Mewn Gofal

 

Welcome to Ysgol Gymraeg Bro Eirwg!

This web site will give you comprehensive information about our school, our aims and about the various activities that are held in school.

Ysgol Bro Eirwg is a designated Welsh language school which was established in 1981. The school provides education for the children in the East of Cardiff, mainly for children living in the Llanrumney and Rumney areas of the City. The school is a happy and busy community and we work hard to ensure that every child has the opportunity to develop to be a responsible member of society. The team is a strong one, relationships are excellent and all the staff are happy and hard working. The children are well motivated and the parents and governors are very supportive. Education is a partnership between the school and the home and we value the excellent relationship we have with all parents.

Since September 2019 Ysgol Bro Eirwg has been in a federation with Ysgol Pen y Pîl - Ffederasiwn y Ddraig. Both schools work closely together for the benefit of all the children and both school communities. 

I hope you enjoy our website and hope that you will get a flavour of the excitement and diversity of life here at Ysgol Gymraeg Bro Eirwg.

Sarah Jones

Head of School

Cysylltwch â Ni /Contact Us

Ysgol Bro Eirwg Heol Ridgeway, Llanrhymni, Caerdydd, CF3 4AB
Top