Google Services

Google Translate

Google Search

Croeso i /Welcome to

Ysgol Bro Eirwg

Creu dyfodol disglair

Hawliau Plant / Children's Rights

Ysgol Sy’n Parchu Hawliau / Rights Respecting School 

 

Rydym yn falch iawn i fod yn ‘Ysgol sy’n Parchu Hawliau’. Rydym eisoes wedi ennill y wobr efydd a nawr rydym yn anelu at ennill y wobr arian erbyn diwedd y flwyddyn academaidd. 


We are very proud to be a Bronze Level Rights Respecting School, and are currently working towards our silver accreditation by the end of the academic year. 

Beth yw Hawliau Plant? What are Children's Rights?

Yn Ysgol Bro Eirwg mae hawliau plant yn allweddol i fywyd pob dydd ac maen nhw’n rhan greiddiol o’n Cwricwlwm Clwstwr arloesol. Mae Cyngor Hawliau Plant Ysgol Bro Eirwg yn gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth o hawliau plant ar draws yr ysgol, i sicrhau bod ein disgyblion yn ffynnu. 

 

Mae gwaith Comisiynydd y Plant yn sicrhau bod holl blant a phobl ifanc Cymru yn ymwybodol o’u hawliau. Mae gan blant a phobl ifanc 42 hawl o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae pob hawl yn sicrhau bod plant a phobl ifanc Cymru yn iach, diogel ac yn hapus. 

 

In Ysgol Bro Eirwg, children's rights are at the heart of everything we do and  are a core part of our innovative Cluster Curriculum. Our Children’s Rights Council works to raise awareness of Childrens’ Rights across the school to ensure that our pupils thrive. 

 

The work of the Children’s Commissioner ensures that Wales' children and young people are aware of their rights. Children and young people have 42 rights under the United Convention on the Rights of the Child. All of these rights ensure that Wales’ children and young people are healthy, safe and happy.

 

 

Cysylltwch â Ni /Contact Us

Ysgol Bro Eirwg Heol Ridgeway, Llanrhymni, Caerdydd, CF3 4AB
Top